Dathlu cymunedau Caerdydd trwy sain!
Mae amgueddfeydd yn casglu eitemau rydym yn eu gweld ac yn darllen amdanynt, ond pa mor aml yr ydym yn eu clywed? Ar gyfer y project hwn rydym wedi recordio’r sain a wneir gan ein gwrthrychau. Rydym wedi casglu straeon am bwysigrwydd cerddoriaeth i bobl a’u cymunedau, ac rydym wedi chwilio am offerynnau newydd i’w ychwanegu at y casgliad.