CYRRAEDD YMA
Rydym yn adeilad yr Hen Lyfrgell yn yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd (cod post CF10 1BH). Mae mynedfa’r amgueddfa ar Stryd Working, ac mae mynediad trwy ramp gyda chanllaw neu chwe gris gyda chanllaw.
Nid oes maes parcio yn yr amgueddfa. Am wybodaeth parcio a theithio dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Caerdydd neu cysylltwch â thîm ‘Cysylltu â Chaerdydd’ Cyngor Caerdydd ar 029 20872088.
SYMUD O GWMPAS
Mae’r amgueddfa ar ddau lawr – y Llawr Daear (LlD) a’r Is-lawr (I-L)
(LlD) Caerdydd mewn Cyd-destun: Mae’r oriel ar y llawr daear ac yn cynnig mynediad gwastad a llwybrau llydan drwyddi draw. Mae’r oriel yn eithaf tywyll ac mae trac sain yn ailadrodd.
(LlD) Coridor Teils: Mae’r Coridor Teils ar y llawr daear ac yn cynnig mynediad gydag un gris bach. Nid oes ramp. Mae’r ardal hon yn dywyll iawn.
(I-L) Lab y Ddinas ac Arddangos y Ddinas: Mae’r orielau hyn yn is-lawr yr adeilad, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw. Mae’r orielau hyn yn olau iawn, ac mae ganddynt fynediad gwastad a llwybrau llydan.
(I-L) Lolfa Ddysgu: Yr is-lawr, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw. Gall lefel y golau cael ei newid yn yr ystafell hon.
(I-L) Toiled Hygyrch: Mae yna doiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod ar lefel yr is-lawr, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw.
ADNODDAU YCHWANEGOL
Canllawiau Sain/Gweledol: Mae canllawiau llaw ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain a gyda disgrifiadau sain manwl.
Mae dyfeisiau llaw hefyd ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg a Tsieinëeg Mandarin. Mae croeso i gŵn tywys a chymorth ym mhob rhan o’r amgueddfa.
- Mae seddi ar gael ym mhob rhan o’r amgueddfa.
- Mae testun yr oriel ar gael mewn print mawr
- Dolen sain ar gael
- Prif arddangosfeydd yr oriel ar gael mewn Braille a Braille Cymraeg
- Chwyddwydrau ar gael