Llinell amser LHDTC+

Ynglŷn â’r prosiect

Mae Amgueddfa Caerdydd wedi gweithio gyda’r hanesydd Norena Shopland i ddatblygu llinell amser LHDTC+ ar gyfer Caerdydd.

Gweithiodd Norena gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwahanol linellau amser o amgylch holl siroedd Cymru. Casglodd Norena y wybodaeth sylfaenol ar gyfer llinell amser LHDTC+ Caerdydd ac ychwanegodd Amgueddfa Caerdydd ac Amgueddfa Cymru wybodaeth am eu casgliadau wrth ymgynghori ag aelodau o wahanol sefydliadau LHDTC+ yng Nghaerdydd.

Rhannu syniadau

Cynhaliom ddigwyddiad trafodaeth banel yn rhannu straeon a phrofiadau LHDTC+ o wahanol adegau yn hanes Caerdydd. Roedd y panelwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Glitter Cymru, Pride Cymru, The Queer Emporium, Cardiff Songbirds a G(end)er Swap. Rhoddodd sesiwn holi ac ateb gyfle pellach i drafod yr hyn y dylid ei gynnwys yn llinell amser LHDTC+ Caerdydd.

Y llinell amser:

Dyma linell amser LHDTC+ ar gyfer Caerdydd.

Llinell amser LHDTC+ (pdf)
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd