Mae ymweliad ag Amgueddfa Caerdydd yn cynnig profiad dysgu manwl, difyr a rhyngweithiol i ddysgwyr.
Rydym yn cynnig gweithdai hunan-arweiniad a gweithdai a hwylusir ar gyfer dysgwyr o’r cyfnod sylfaenol i addysg uwchradd a dysgu gydol oes. Gallwn deilwra’r rhain yn hawdd i ddiwallu anghenion eich dosbarth a phroject.
Yn newydd ar gyfer eleni, gallwn gynnig ein sesiynau trin gwrthrychau ‘Dwylo ar Hanes’ fel rhan o ymweliad â’r amgueddfa. Caiff y sesiynau rhyngweithiol, 15 munud o hyd eu hwyluso gan aelodau o dîm yr amgueddfa.