Dyddiau Buddugoliaeth

Ar 8 Mai 1945 ymgasglodd tyrfa y tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer y cyhoeddiad o Lundain – roedd yr Almaen wedi ildio, datganwyd Buddugoliaeth yn Ewrop (Diwrnod VE).

Cyhoeddwyd dau ddiwrnod o wyliau i ddathlu.  Paentiwyd llochesi cyrch awyr yn goch, gwyn a glas a gosodwyd  baneri bychain i hedfan. Cynhaliwyd partïon stryd a chafodd coelcerthi eu cynnau. Cyfunwyd cwponau dogni i greu partïon da, a phan oedd y plant wedi mynd i’r gwely  gwthiai’r oedolion radiogramau i’r stryd a dawnsio. Cynhaliwyd gwasanaethau crefyddol ledled Caerdydd.

Datganwyd buddugoliaeth yn erbyn Siapan (Diwrnod VJ) ar 15 Awst 1945, a dyna fu diwedd go iawn yr Ail Ryfel Byd, a chafwyd rhagor o ddathliadau gan gynnwys dawns wedi ei goleuo gan oleuadau cerbydau o flaen Neuadd y Ddinas. Dathlodd Americanwyr yn Heol Eglwys Fair a seiniodd y seirenau cyrch awyr am y tro olaf.

Byddai bywyd yn newid eto wrth i faciwîs, milwyr, gweithwyr rhyfel a charcharorion-rhyfel ddechrau dod adref. Roedd hefyd yn amser i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel. Parhaodd dogni dillad a bwyd wrth i’r genedl ddechrau ailadeiladu.

Straeon a Gwrthrychau

Mae Amgueddfa Caerdydd wedi casglu straeon a gwrthrychau personol yn ymwneud â dathliadau Buddugoliaeth yn Ewrop. Tri o drigolion Caerdydd sy’n hel atgofion o’r cyfnod hwn.

Straeon PoblGwrthrychau’r Amgueddfa

Oriel Luniau

The VE Day crowd in Cardiff city centre.

Criw Diwrnod VE yng nghanol y ddinas.

Man stands with his wife and daughter.

FE Fett o’r Gatrawd 77 yr Ack-Ack Trwm yma gyda’i wraig a’i ferch, newydd ddychwelyd ar ôl tair blynedd mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn Japan.

Black and white photo. People around large table, in the street, pose for photograph. A tiered cake is on the table.

Parti Diwrnod VE yn Stryd yr Undeb, Canol y Ddinas.

Black and white photo. People around large table in the street pose for photograph.

Dathliadau Diwrnod VE yn Harrowby Street, Butetown.

Black and white photo. VE Day street celebrations

Dathliadau Diwrnod VE, gyda dol Hitler ar gyfer y goelcerth, Inglefield Avenue, y Mynydd Bychan.

Black and white photo. People on street wearing fancy dress, pose for photo.

Gorymdaith gwisg ffansi Diwrnod VE Monmouth Street, Grangetown.

Black and white photo.

Cafodd Bernice Maynard ei hethol yn ‘Victory Queen’ ym mharti Diwrnod VE Manor Street, Cathays, yn wyth oed.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd