Eitemau a Straeon

YNGLŶN Â’R CASGLIAD

Mae ein casgliad yn rhan bwysig o dreftadaeth Caerdydd ac yn ein helpu i adrodd hanes y ddinas, o’r amseroedd cynharaf, trwy gydol y twf glo diwydiannol, hyd at y diwrnod presennol.

Ynghlwm wrth y rhan fwyaf o eitemau, effemera a ffotograffau rydym yn eu casglu mae straeon personol, felly y bobl sydd wedi siapio’r ddinas sy’n adrodd ei hanes.

Rydym bob amser yn casglu! Rydym yn parhau i ychwanegu at ein casgliad i sicrhau ein bod yn cynrychioli amrywiaeth Caerdydd a’i chymunedau, ei gorffennol a’i phresennol.

Rydym yn casglu eitemau o’r gorffennol ac o heddiw – mae casglu cyfoes yn bwysig i ni. Mae casglu eitemau a straeon o’r dyddiad presennol yn golygu y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod pa siâp oedd ar Gaerdydd heddiw.

Casgliadau Ar-lein

Mae casgliad Amgueddfa Caerdydd yn adrodd hanes Caerdydd a’r bobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae yma dros y canrifoedd.

Museum of Cardiff object collage.
Casgliadau Ar-lein
Hawlfraint

Mae hawlfraint y delweddau a’r cynnwys ar y wefan hon yn perthyn i Amgueddfa Caerdydd a deiliaid unigol.  Rydym wedi ceisio sicrhau ein bod wedi cysylltu â deiliaid hawliau a gofyn am ganiatâd ganddynt i ddefnyddio unrhyw beth ar y wefan hon.  Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni am unrhyw hepgoriadau neu wallau, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cywiro.

Wedi’i ariannu gan Llywodraeth Cymru, a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

Eitemau a straeon

Teapot
Mae’r tebot hwn wedi croesi Môr yr Iwerydd ddwywaith.   Fe’i rhoddwyd i Maggie Williams Harris ym 1927 pan oedd ar fin camu ar long yn Nociau Caerdydd i’w chludo hi a’i theulu ifanc i Ganada i ddechrau bywyd newydd.  Pan symudodd wyres Maggie yn ôl i Gymru, daeth â’r tebot gyda hi a’i roi i Stori Caerdydd
Clock, Museum Object, Heritage, Cardiff, Caroline Street
Cafodd y cloc hwn ei greu gan Edward Kaltenbach, ar ddiwedd y 1800au fwy na thebyg. Daeth Edward i Gaerdydd o Baden (sydd bellach yn rhan o’r Almaen) ac agorodd siop gemwaith a watshis ym 1866. Roedd y teulu’n byw yn y siop ar Stryd Caroline am 131 o flynyddoedd, tan i’w wyresau ei chau ym 1997.
Tambourine
Symudodd teulu Veronica Smith o’r Eidal i Gaerdydd yn y 19eg ganrif.  Tambwrîn mam-gu Veronica oedd hwn. Bu hi a’i gŵr yn chwarae cerddoriaeth am arian ar eu taith o’r Eidal i Gaerdydd, gan ddringo’r Alpau ar eu ffordd.  Fel llawer o deuluoedd Eidalaidd eraill, gwnaethant ymgartrefu yn Adamsdown.

Sut mae cyfrannu eitem neu stori

Meddwl am gyfrannu eitemau i’r casgliad? Darllenwch y canlynol am gyngor ar yr hyn i’w wneud.

Beth rydym yn ei gasglu?

Rydym yn casglu deunyddiau sydd â chyswllt cryf â hanes Caerdydd ac yn ddelfrydol eitemau y mae straeon ac atgofion personol wedi cysylltu â nhw.

Gwybodaeth i’w rhoi i Amgueddfa Stori Caerdydd

Pan gysylltwch â ni byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi’r canlynol:

  • Gwybodaeth gefndir – Crynodeb byr gan gynnwys unrhyw straeon personol a sut mae’r eitem yn berthnasol i hanes Caerdydd.
  • Sut rydych wedi cael gafael ar yr eitem
  • Dyddiadau sy’n gysylltiedig â’r eitem
  • Ffotograff o’r eitem
  • Dywedwch wrthym a oes gennych unrhyw ffotograffau o’r gwrthrych yn cael ei ddefnyddio
  • Cyflwr yr eitem

Rhesymau pan na allem o bosibl dderbyn eich cyfraniad

Er ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniadau’n fawr, nid yw bob amser yn bosibl i ni dderbyn popeth a gynigir. Mae rhesymau dros pam na allem o bosibl dderbyn eitem yn cynnwys:

  • Mae eisoes gennym eitem debyg yn y casgliad
  • Nid oes digon o le gennym i’w storio
  • Mae’r eitem yn fwy addas i sefydliad treftadaeth arall
  • Mae’r eitem mewn cyflwr gwael a byddai’n anodd ei chadw
  • Nid oes llawer o wybodaeth gysylltiedig neu nid oes cysylltiad â hanes Caerdydd
  • Nid yw’n cyd-fynd â’n polisi casgliadau

Os nad ydych yn derbyn eich eitem ar gyfer y casgliad craidd efallai y byddwn yn gofyn a allwn ni ddefnyddio eich eitem yn ein casgliad trin i gynorthwyo gyda’n gwaith dysgu ac allgymorth.

Mae pob eitem yn cael ei hystyried yn ofalus gan y staff curadurol mewn perthynas â’n polisi casgliadau a’n casgliadau presennol.

Nodwch:

Ni allwn roi prisiadau

Nid ydym fel arfer yn derbyn eitemau i’w benthyg am gyfnod hir

Ni allwn dderbyn eitemau peryglus oni bai bod rhesymau cymhellol dros wneud felly. Mae eitemau peryglus yn cynnwys drylliau, eitemau sy’n cynnwys asbestos, ffrwydron, deunyddiau fflamadwy, gwenwynllyd sydd o bosibl yn garsinogenig neu ymbelydrol.

Sut mae cysylltu â ni

E-bost: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk gyda ‘chyfrannu eitem’ yn llinell pwnc yr e-bost

Drwy’r post: RHADBOST RSGA-BYBX-AJYE, Stori Caerdydd, Hen Lyfrgell, Heol Y Drindod, Caerdydd, CF10 1BH

Peidiwch ag anfon yr eitem atom ni, gan nad fydd modd i ni ei dychwelyd.

Beth nesaf?

Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi a gallem ofyn am fwy o wybodaeth o bosibl.

Unwaith y deuir i benderfyniad byddwn yn cysylltu â chi i naill dderbyn neu wrthod eich cynnig. Nodwch fod gennym lawer o wrthrychau i’w prosesu ar hyn o bryd sy’n cymryd yn hirach nag yr hoffem ni.

Os yw eich cyfraniad yn addas i’n casgliad byddwn yn trefnu cwrdd â chi i gasglu’r gwrthrych a byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen trosglwyddo teitl, sy’n trosglwyddo’n gyfreithiol y gwrthrych i ni i ofalu amdano.

Cyfrannu straeon personol

Oes gennych Stori Caerdydd i’w hadrodd? Os felly, hoffem glywed gennych.

E-bost: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk gyda ‘chyfrannu stori’ yn llinell pwnc yr e-bost

Drwy’r post: RHADBOST RSGA-BYBX-AJYE, Stori Caerdydd, Hen Lyfrgell, Heol Y Drindod, Caerdydd, CF10 1BH

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd