PECYNNAU DYSGU CYFUNOL

Ynghylch y pecynnau

Rydym wedi dylunio tri phecyn dysgu cyfunol, pob un yn edrych ar ‘fywyd fel plentyn’ yn ystod cyfnodau gwahanol mewn amser. Bydd y pecynnau’n annog dysgwyr i dynnu cymariaethau rhwng bywyd yn y gorffennol a bywyd heddiw.

Wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion cynradd, mae’r pecynnau’n cynnig profiad dysgu cyfunol gyda phob pecyn yn cyfuno amrywiaeth o ffynonellau. Gan ddefnyddio ffotograffau hanesyddol, gwrthrychau amgueddfeydd a straeon personol, bydd disgyblion yn archwilio hanes Caerdydd ac yn meithrin gwybodaeth am eu hardal, eu cymunedau a’u treftadaeth a dealltwriaeth ohonynt.

Yn ogystal â’r prif gyflwyniad adnoddau digidol, byddwch yn derbyn nodiadau addysgu a fersiwn hawdd ei ddeall o’r adnodd. Mae pob pecyn wedi’i gynllunio i ategu meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Pecynnau sydd ar gael

Mae tri phecyn cod lliw i chi ddewis ohonynt, pob un yn cynnwys adnodd dysgu cyfunol. Mae’r pecynnau ar gael i’w defnyddio naill ai drwy hunan-arweiniad neu dan arweiniad amgueddfa, a fydd yn cael ei hwyluso dros Microsoft Teams gan Swyddog Dysgu’r amgueddfa.

  • Bywyd fel plentyn: Caerdydd Oes Fictoria

Cysyniadau: hawliau plant, newid, newidiadau ym mywyd y cartref a thechnoleg.

  • Bywyd fel plentyn:  Yr Ail Ryfel Byd

Cysyniadau: Gwrthdaro, digwyddiadau’r byd a hanes, newidiadau ym mywyd y cartref, newid.

  • Bywyd fel plentyn:  Bryd Hynny a Nawr

Cysyniadau: Cynaliadwyedd amgylcheddol, moeseg, newid cymdeithasol, newid.

Prisiau a sut i drefnu

Hunan-arweiniad – £75* (60 o ddisgyblion ar y mwyaf)

Dan arweiniad yr amgueddfa – £150* (Hyd at 2 weithdy x 1 awr wedi’u hwyluso ar gyfer 60 o ddisgyblion ar y mwyaf)

*Nid yw’r prisiau’n cynnwys TAW (dim TAW i’w gynnwys ar gyfer ysgolion Cyngor Caerdydd).

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu, cysylltwch â’n Swyddog Dysgu ac Allgymorth:

Gwybodaeth i Athrawon

Rydym wedi creu pecyn gwybodaeth i athrawon sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y gorau o becynnau dysgu cyfunol Amgueddfa Caerdydd. Mae gwybodaeth am ddiogelu ar-lein a chael mynediad at Microsoft Teams ar gyfer gweithdai rhithwir hefyd wedi’i chynnwys, ar gyfer y rhai sy’n dewis yr opsiwn a arweinir gan yr amgueddfa.

Gwybodaeth i Athrawon
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd