Piano bawd

PIANO BAWD

Mae Severin M’Poutou wedi bod yn canu’r piano bawd ers iddo fod yn 14 oed. Dywed wrthym lle dysgodd i’w chwarae:

“Gartref yn y Congo, Brazzaville. Yn benodol, yn y ddinas economaidd, o’r enw Pointe Noire. Felly, ie, fel arfer roeddwn yn mynd gyda fy nhad. Roedd fy nhad eisiau dysgu o’r athro, ond, drwy dim ond eu gwylio, eu gwylio nhw, ceisiais anghofio fy hun, ac, un diwrnod, sylwodd athro fy nhad fy mod yn chwarae’n well na fy nhad. Meddai, “O hyn ymlaen, mae angen i ti ddod, bob tro, gyda dy dad, a byddaf yn dy ddysgu.” Ond, yn anffodus, ni wnaeth fy nhad, sut allai ddweud? Cario ymlaen, dim ond y fi.”

Thumb piano, Museum of Cardiff, Sound exhibition

Mae’n dweud wrthym am ei gerddoriaeth a pherfformio yng Nghaerdydd:

“Mae angen i mi ddweud, heblaw am y piano bawd, dwi’n chwarae offerynnau eraill, fel Djembe, sy’n fath o ddrwm o orllewin Affrica, a seiloffon traddodiadol, sy’n cael ei alw’n Mara yn fy ngwlad i, Matimba neu Balafon, rhywle arall, a chrynwyr. Rwy’n ysgrifennu caneuon, ac yn canu hefyd, felly cerddoriaeth yw fy mywyd, a fy mywyd yw cerddoriaeth! Rwy’n adnabod llawer o gerddorion, fel Djembe; gyda Djembe, mae llawer o gerddorion yn dalentog iawn, iawn, a chwaraewyr y piano bawd fel Mamady Keita, chi’n gwybod, gwnaeth hi lawer iawn, iawn, iawn, iawn i wneud Djembe, yn, boblogaidd, chi’n gwybod, ym mhob rhan o’r byd. Ac rwyf mewn cyswllt, hyd yn oed yn fan hyn, gyda cherddorion gwahanol o gefndiroedd gwahanol, yn ceisio, i drefnu pethau, chwarae gyda’n gilydd, yn rhannu ein cerddoriaeth, gan ein bod ni’n dod o gefndiroedd gwahanol, felly mae’n chi’n gwybod, rhyw fath o gynnwys, ie, i ni, i lawer ohonom ni.

[Rwy’n perfformio] gyda grŵp Oasis, oherwydd pan gyrhaeddais y wlad hon gyntaf, roeddwn yn, sut allaf ddweud? Es i weld Oasis, ac roeddwn yn meddwl eu bod nhw’n bobl ffantastig iawn, iawn. Des heb unrhyw offeryn, ond, oherwydd Oasis, rwyf wedi cael gitâr, drwm, ac ar hyn o bryd, gallwn chwarae fy ngherddoriaeth yma yn y wlad hon. Fel arall, dylai fod, dylai gymryd hirach, chi’n gwybod, oherwydd des i’r wlad fel ceisiwr lloches, felly dwi ddim yn gwybod sut, sut i, neu i gael rhai offerynnau. Felly yng Nghaerdydd, y rhan fwyaf o’r amser, pan fydd digwyddiadau, digwyddiadau cerddoriaeth yn cael eu trefnu, ie, rwy’n dod, ac yn cefnogi, grŵp Caerdydd; rydym yn perfformio o bryd i’w gilydd, a dwi’n ei fwynhau.”

Severin M’Poutou yn chwarae’r piano bawd.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd