CRAGEN DRO

Mae Debanjali yn dweud wrthym am y gragen dro:

“Mae’r gragen dro yn rhywbeth rydw i a llawer o bobl Hindŵaidd o India a phobl Fwdhaidd wedi gwrando arni ers ein plentyndod. Mae’n wrthrych sydd i’w weld yn y rhan fwyaf o leoedd addoli Hindŵaidd a Bwdhaidd. Mae’n wrthrych a oedd yn gyffredin bron ym mhob aelwyd Hindŵaidd tan gwpl o ddegawdau yn ôl mwy na thebyg. Dwi ddim yn siŵr a yw mor gyffredin nawr, siŵr o fod nad ydyw. Pan oeddem yn blant, cawsant ein magu yn edrych ar ddelweddau o dduwiau a duwiesau Hindŵaidd yn dal y gragen dro fel symbol o fywyd, gan fod y gragen dro yn dod o’r dŵr, a datblygodd bywyd o’r dŵr. Mae’n symbol o burdeb – rhywbeth sanctaidd iawn, rhywbeth dwyfol.

Conch, Musical Instrument

Yn draddodiadol, tan heddiw, mae’n cael ei defnyddio’n bennaf mewn ffordd debyg i gloch eglwys, er enghraifft, yn y rhan hon o’r byd. Ei diben yw rhoi gwybod i bobl bod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynnal neu bod rhyw fath o ddefod grefyddol yn digwydd mewn teml, neu hyd yn oed mewn cartref rhywun. Bydd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer llawer o achlysuron hapus yn y gymuned, ar lefel fwy personol. Er enghraifft, mewn priodasau, mewn seremonïau bach pan gaiff plentyn ei ddiddyfnu yn chwe mis oed, pan fo gweddill y teulu a ffrindiau yn ymgasglu ac mae defodau bach sy’n ymwneud â’r plentyn, gellir clywed y gragen dro. Mae’n cael ei chlywed bob dydd mewn rhai aelwydydd, yn y bore ac ar fin nos. Felly, pan oeddem yn blant, pan fydden ni’n mynd allan i chwarae, roedd sain y gragen dro gyda’r hwyr yn golygu ei bod hi’n amser mynd adref; felly roedd yn fwy tebyg i gloc larwm i ni!”

Pandit Shanti Swarup Shanti yn canu’r gragen do.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd