Esgyrn cerddorol

ESGYRN CERDDOROL

Mae Mr Mills yn cofio chwarae esgyrn cerddorol:

“Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Treganna ei bomio’n eitha’ trwm, yn enwedig Blackstone Street. Pan oedden ni’n blant, byddent yn torri’r llechi a fomiwyd i siâp esgyrn cerddorol ac roedd pawb yn arfer chwarae ac arbrofi gyda nhw. Roedden ni i gyd yn gwybod am esgyrn cerddorol. Dw i ddim yn gallu cofio sut roedden ni’n gwybod amdanynt, ond roedden ni rhywsut. Mi wnes i ddangos i fy mam…sut i chwarae esgyrn cerddorol gyda’r llechi. Cymerodd fy mam ati’n reddfol. Aeth i brynu rhai go iawn o siop. Roedd hi’n arfer eu chwarae yn ei thafarn leol, y Greyhound ar Wellington Street. Yn y dyddiau hynny, roedd y dafarn bob amser yn ganolbwynt unrhyw weithgarwch. Roedd fy mam yn chwarae sgitls ac roedd hi’n rhan o dîm sgitls menywod. Byddai i’n chwarae ei hesgyrn cerddorol ar ôl gêm; yn aml byddai rhywun yn ymuno â hi a chanu; efallai byddai rhywun yn dechrau chwarae’r llwyau hefyd.”

Musical Bones, Museum of Cardiff, Sound Exhibition

Mae Ellie Lake yn dweud wrthym am yr esgyrn cerddorol:

“Mae’r esgyrn cerddorol hyn tua 70 mlwydd oed. Roeddent yn perthyn i Fred Millard o Gaerdydd. Roedd e’n arfer eu chwarae, ychydig fel mae llwyau’n cael eu chwarae heddiw. Roedd e’n eu chwarae mewn tafarnau neu lle bynnag roedd sesiwn ganu.”

Severin M’Poutou yn chwarae’r esgyrn cerddorol.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd