Swyddi Gwag

Teitl y Swydd: Aelod o’r tîm Blaen Tŷ

Cyflogwr: Amgueddfa Caerdydd

Lleoliad:  Caerdydd

Y Math o Swydd:  Rhan amser

Natur y Contract:  Dim Oriau

Rheolaidd: £12 yr awr

Dyddiad Cau: 06/05/24

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.   Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, sef y rhai;

  • sy’n 25 oed ac iau
  • nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  •  o’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig a chymunedau LHDT+
  •  gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol eraill.

Ni ddylai unrhyw ymgeisydd, cyflogai neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd/ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, (gan gynnwys cyplau o’r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’r Gymraeg.

Ymgeiswyr gydag anabledd

Bydd ymgeiswyr sydd ag anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, yn cael cynnig cyfweliad a gofynnir iddynt cyn iddynt fynychu a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn y broses.

Disgrifiad Swydd – Aelod o’r tîm Blaen Tŷ

Disgrifiad Swydd / Cyfrifoldebau Allweddol

Croesawydd / Cyfarchydd

 

Diben y Swydd: Bydd deiliad y swydd yn aelod o dîm o staff sy’n rhoi gofal cwsmeriaid o ansawdd gwych yn Amgueddfa Caerdydd drwy ragweld ac ymateb i anghenion ymwelwyr. Ymhlith yr amrywiaeth o gyfrifoldebau bydd cynorthwyo gyda rhaglennu llefydd arddangosfa, derbynfa a chroeso, gofal a dehongli’r adeilad a’i gasgliadau, diogelwch a chyfrifoldeb dros sicrhau bod y safle yn lân ac wedi ei gynnal a’i gadw’n dda.

 

Prif Gyfrifoldebau

Mae’r rhestr ganlynol yn nodweddiadol o lefel y cyfrifoldebau y disgwylir i ddeiliad y swydd eu perfformio. Nid dyma nhw i gyd o anghenraid ac efallai bydd dyletswyddau eraill sy’n debyg o ran math a lefel yn ofynnol o bryd i’w gilydd.

 

  1. Fel cynrychiolydd o Amgueddfa Caerdydd, bydd angen i chi ar bob adeg:

-wisgo’n briodol.

-Ymddwyn yn gyfeillgar fel y gall pobl ddod atoch yn hawdd gan wasanaethu fel wyneb cyfeillgar i staff ac ymwelwyr.

-hyrwyddo’n gadarnhaol a gweithredu fel llysgennad i Amgueddfa Caerdydd.

  1. Cynorthwyo gyda rhaglennu llefydd arddangos.
  2. Sicrhau iechyd a diogelwch yr ymwelwyr a’r adeilad a’i gynnwys ar bob adeg.
  3. Darparu gradd uchel o broffesiynoldeb i gynorthwyo cynyddu defnydd ymwelwyr ac enw da Amgueddfa Caerdydd a’r Cyngor.
  4. Cynorthwyo gyda digwyddiadau arbennig pan fo’r gofyn.
  5. Rhoi cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr am y safle a’i arddangosiadau ac arddangos dangosbethau sy’n gweithio ac sy’n rhyngweithiol yn ôl gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
  6. Gweithredu dyletswyddau croesawu gan gynnwys cyfarch unigolion a grwpiau o ymwelwyr.
  7. Patrolio ardaloedd i ddiogelu’r adeilad a’r ardal o’i gwmpas, ei gasgliadau a’i offer rhag difrod, fandaliaeth, lladron, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thân ac ymgyfarwyddo â’r gweithdrefnau a’r lleoliad, y defnydd o offer diffodd tân ac offer diogelwch arall gan gynnwys cadeiriau gadael mewn argyfwng sydd ei angen i ddiogelu staff ac ymwelwyr mewn argyfwng.
  8. Paratoi orielau ac ystafelloedd ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau drwy symud a gosod dodrefn, offer a lluniaeth.
  9. Gweithredu gweithdrefnau’n barod ar gyfer gorffen ar ddiwedd y dydd a dechrau diwrnod newydd. (hynny yw clirio’r ymwelwyr o’r ardal ar ddiwedd y dydd)
  10. Bod yn gyfrifol am gasglu allweddi staff ac arwyddo allweddi nôl wrth iddynt orffen eu shifft.
  11. Bod yn gyfrifol am agor a chau’r adeilad yn unol â gweithdrefnau’r Hen Lyfrgell
  12. Annog ymwelwyr i ddefnyddio’r daith glywedol a bod yn gyfrifol am gasglu’r offer perthnasol pan fydd ymwelwyr yn gadael a chynnal a chadw’r unedau. Adrodd am ddifrod neu golledion yr unedau i Oruchwyliwr Blaen y Tŷ.
  13. Cynorthwyo gyda symud, trin a phacio a dadbacio casgliadau a dangosbethau gan gynnwys gosod arddangosfeydd ac arddangosiadau.
  14. Arsylwi a chydsynio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch a chod ymarfer ar gyfer arolygu staff a bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldeb eich hun ac eraill o Iechyd, Diogelwch a Lles personol a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich diffyg gweithredu a rhoi gwybod am unrhyw beryglon i ddiogelwch.
  15. Cydsynio gyda’r holl gyfarwyddiadau o ran diogelwch a chyfrinachedd.
  16. Efallai y bydd gofyn i chi o bryd i’w gilydd ymgymryd â dyletswyddau eraill yr ystyrir iddynt fod yn rhesymol eu disgwyl.
  17. Mae’n hanfodol bod holl bolisïau a gweithdrefnau’n cael eu dilyn boed hynny ar hyd a lled y Cyngor neu’n benodol i’r safle.
  18. Cyfrannu at y gwaith o gefnogi egwyddorion ac ymarfer cyfle cyfartal fel y nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y sefydliad.
  19. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn. Mae’n ofyniad i bobl na allant Gymraeg ymrwymo i ddysgu’r iaith.

 Gofynion Corfforaethol

  •  Cyfrannu at y gwaith o gefnogi egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal fel y’u nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.
  • Bod yn gyfrifol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac unrhyw berson arall y gallai eich gweithredoedd neu eich esgeulustod chi effeithio arno a chydymffurfio â phob deddfwriaeth iechyd a diogelwch fel y bo’n briodol.
  • Fel dyletswydd statudol, cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig ac adrodd ar bryderon diogelwch a lles plant neu oedolion sydd mewn perygl. I’ch cefnogi yn hyn o beth, mae angen i chi gwblhau hyfforddiant diogelu ar y lefel sy’n briodol i’r swydd hon.
  • Fel amod o’ch cyflogaeth, gellir gofyn i chi gyflawni unrhyw ddyletswyddau a/neu amseroedd gwaith eraill fel y bo’n rhesymol ddisgwyliedig gennych fel sy’n cyd-fynd â’ch gradd neu’ch lefel o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.
  • Er y cewch rywle canolog i weithio ohono, efallai y bydd yn rhaid i chi weithio mewn amryw leoliadau yn unol ag anghenion y swydd.

 

Manyleb Swydd

Blaen Tŷ: Croesawydd a Chyfarchydd  

Cymwysterau, sgiliau a phrofiad angenrheidiol:    

 

  • Brwdfrydedd gwirioneddol am bopeth yn ymwneud â Chaerdydd – Gallu gweithio ac ymwneud gydag amrywiaeth eang o bobl
  • Diddordeb gwirioneddol a brwdfrydedd dros dreftadaeth
  • Gallu i siarad Cymraeg neu ymroddiad i ddysgu’r iaith yn hanfodol
  • Diddordeb a pharodrwydd i ddysgu am y casgliadau yn Amgueddfa Caerdydd
  • Ymwybyddiaeth o dân, gweithdrefnau argyfwng, iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf
  • Gwybodaeth am weithdrefnau diogelwch
  • Gallu gweithio oriau anghymdeithasol, (gan gynnwys penwythnosau a gyda’r nosweithiau), yn ôl rota
  • Agwedd hyblyg
  • Prydlon
  • Sgiliau cyfathrebu a chwsmer da gan ymddwyn mewn modd cyfeillgar,

Agos-atoch a’r gallu i gynorthwyo pawb

  • Ymarferol – Cynnal a chadw Oriel

 

Gallu

  • Rhoi Ein Cwsmeriaid yn Gyntaf
  • Cyflawni Pethau
  • Cymryd Cyfrifoldeb Personol
  • Ceisio deall eraill, a’u trin gyda pharch

 

Cyfeiriad ar gyfer ymgeisio neu gael rhagor o fanylion: Anfonwch CV a llythyr eglurhadol i Oruchwylydd Blaen y Tŷ, Menna Bradford yn menna.bradford@cardiff.gov.uk

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd