Starts :
Dechrau :
|
28 Medi 2019 |
Ends :
Gorffen :
|
28 Medi 2019 |
Time:
Amser:
|
10:30 am-3:30 pm |
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Sgyrsiau; Siartiaeth a gwleidyddiaeth radical yng Nghaerdydd a Bryste
Newidiodd Prydain yn y 1830au, a dyma pryd y cafodd y Gaerdydd fodern ei chreu. Trawsffurfiodd John, Ail Ardalydd Bute, Arglwydd Caerdydd, dref â llai na 20,000 o bobl yn byw ynddi drwy adeiladu Doc Bute y Gorllewin. Ar lefel Brydeinig, diddymwyd caethwasiaeth gan Brydain, pasiwyd y Ddeddf Ddiwygio. Gwelwyd terfysgoedd yn para wythnos ym Mryste. Dedfrydwyd Merthyron Tolpuddle i Gaethwasanaeth am ffurfio undeb llafur i weithwyr fferm. Ac arweiniodd gwrthgodiad Merthyr a Chasnewydd at farwolaeth dwsinau o bobl.
Mewn sgyrsiau a stondinau yn arddangos deunyddiau gwreiddiol, bydd Awen@yllyfrgell yn ystyried rhai o elfennau llai adnabyddus cyfnod y Siartwyr. Beth oedd y cysylltiad rhwng porthladd caethwasiaeth Bryste a’r Hafren â Merthyr a Chasnewydd? Beth oedd yn digwydd yn nhref newydd Bute yng Nghaerdydd?
Mynediad am ddim, dim angen bwcio o flaen llaw.
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH