PROTEST! Syniadau sy’n werth brwydro drostynt
Project Gweithgaredd (11 – 16 oed)
Mae’r project gweithgaredd hwn wedi ei lunio i’w ddefnyddio law yn llaw â’r ffilm animeiddio fer ‘Protest! Syniadau sy’n werth brwydro drostynt’. Wedi ei greu gan fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, mae’r ffilm yn bwrw golwg ar eu ‘syniadau sy’n werth brwydro drostynt’. Dros beth wnewch chi frwydro?
Dechreuwch drwy wylio’r ffilm fer ac yna lawrlwytho’r cyflwyniad a’r taflenni gweithgaredd sy’n cynnwys nodiadau’r athro.
Ysgol y Dreigiau Drygionus (Blynyddoedd Cynnar 3 +)
Dyma rai gweithgareddau hwyliog i chi eu hargraffu gartref. Mae pob gweithgaredd dysgu yn cynnwys cymeriadau o Amgueddfa Caerdydd i blant eu lliwio ac wedi eu cynllunio i gefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd sylfaenol.
Lawrlwytho Gweithgareddau (ffeiliau PDF)