Eich ffotograffau: Caerdydd dan glo
Eich ffotograffau: Caerdydd dan glo
Eich ffotograffau: Caerdydd dan glo
Starts :
Dechrau :
12 Rhagfyr 2020
Ends :
Gorffen :
30 Medi 2021
Time:
Amser:
All Day
Organiser:
Trefnydd:

Helpwch ni i gael cipolwg ar fywyd yng Nghaerdydd yn ystod pandemig COVID-19 trwy gymryd rhan yn ein project ffotograffiaeth.

Rydym yn casglu lluniau i adlewyrchu sut mae bywydau pobl wedi newid yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.  

Mae’n bwysig ein bod yn cadw cofnod o’r cyfnod hwn mewn hanes, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am y pandemig a’i effaith ar ein dinas a’i phobl. 

Rydym yn chwilio am ddelweddau sy’n dangos sut mae eich bywyd yng Nghaerdydd wedi newid; eich arferion dyddiol newydd, heriau newydd, neu’r pethau bach rydych chi wedi dod i’w gwerthfawrogi.   

Caiff detholiad o’r ffotograffau eu harddangos ar binfwrdd rhithwir ar y wefan hon. Byddwn hefyd yn dewis rhai i’w hychwanegu at gasgliad ein hamgueddfa.  

E-bostiwch hyd at bedwar delwedd i storicaerdydd@caerdydd.gov.uk  neu lanlwythwch eich delweddau i Twitter neu Facebook @thecardiffstory

Trwy anfon neu lanwytho eich lluniau rydych yn cadarnhau eich bod yn hapus i ni gyhoeddi eich lluniau ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol. 

Caerdydd Dan Glo
Share this:
Rhannwch:

EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD





Map Unavailable

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Arddangosfa ffotograffiaeth Tŷ Canna: Fy Nghaerdydd - 02/03/2024 - 19/05/2024 - 10:00 am - 4:00 pm
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd