Arddangosfa Lôn Atgofion Trelái
|
Starts :
Dechrau :
|
11 Gorffennaf 2026 |
|
Ends :
Gorffen :
|
31 Hydref 2026 |
|
Time:
Amser:
|
10:00 am-4:00 pm |
|
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Archwiliwch sut roedd plant Caerdydd yn chwarae rhwng y 1930au a’r 1950au.
Mae’r arddangosfa hon, sy’n cael ei harwain gan y gymuned, yn cynnwys:
- Hanesion ar lafar yn cynnwys atgofion personol o blentyndod.
- Ffotograffau, darluniau, a hen deganau.
- Gêm fideo wedi’i chyd-gynllunio a grëwyd gan aelodau’r prosiect.
Dysgwch sut y gweithiodd tîm o bobl iau a hŷn o Gaerau a Threlái gyda’i gilydd i gasglu, dehongli a rhannu eu hanes chwarae lleol.
Mae’r arddangosfa hon yn brosiect cyd-gynhyrchu chwe mis o hyd rhwng:
- Endeavourers – grŵp cymunedol dros 60 oed o Drelái.
- Disgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
- Ymchwilwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd.
Maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd, creu gyda’i gilydd, dysgu gyda’i gilydd, a chael llawer o hwyl gyda’i gilydd.
Yn cael ei arddangos yn ein horiel Arddangos y Ddinas rhwng 11 Gorffennaf a 31 Hydref 2026.
Mynediad am ddim.
EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH
Loading Map....

