Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar rai o’r offerynnau cerdd a ddefnyddiwyd gan wahanol gymunedau yng Nghaerdydd. Drwy archwilio clipiau fideo a hanesion personol, byddwch yn darganfod pwysigrwydd cerddoriaeth i bobl a’u cymunedau a chael eich annog i feddwl am y seiniau a’r gerddoriaeth sy’n bwysig i chi.
Dechreuwch drwy lawrlwytho’r ddalen weithgaredd, yna archwilio arddangosfa ar-lain Sain Caerdydd i ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau. Pob hwyl dditectifs!
Cam 1
Os na allwch argraffu copi o’r daflen waith, dim problem! Ysgrifennwch eich atebion ar ddalen o bapur.