Ynglŷn â’r prosiect
Mae Amgueddfa Caerdydd wedi gweithio gyda’r hanesydd Norena Shopland i ddatblygu llinell amser LHDTC+ ar gyfer Caerdydd.
Gweithiodd Norena gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwahanol linellau amser o amgylch holl siroedd Cymru. Casglodd Norena y wybodaeth sylfaenol ar gyfer llinell amser LHDTC+ Caerdydd ac ychwanegodd Amgueddfa Caerdydd ac Amgueddfa Cymru wybodaeth am eu casgliadau wrth ymgynghori ag aelodau o wahanol sefydliadau LHDTC+ yng Nghaerdydd.