Cyrraedd yma:
Rydym yn adeilad yr Hen Lyfrgell yn yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd (cod post CF10 1BH). Oherwydd gwaith adeiladu, mae’r fynedfa i’r amgueddfa bellach drwy’r drws ar ochr Heol y Drindod o’r adeilad.
Nid oes maes parcio yn yr amgueddfa. Am wybodaeth parcio a theithio dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Caerdydd neu cysylltwch â thîm ‘Cysylltu â Chaerdydd’ Cyngor Caerdydd ar 029 20872088.

Symud o gwmpas:
Mae’r amgueddfa ar ddau lawr – y Llawr Daear (LlD) a’r Is-lawr (I-L)
(LlD) Caerdydd mewn Cyd-destun: Mae’r oriel ar y llawr daear ac yn cynnig mynediad gwastad a llwybrau llydan drwyddi draw. Mae’r oriel yn eithaf tywyll ac mae trac sain yn ailadrodd.
(LlD) Coridor Teils: Mae’r Coridor Teils ar y llawr daear ac yn cynnig mynediad gydag un gris bach. Nid oes ramp. Mae’r ardal hon yn dywyll iawn.
(I-L) Lab y Ddinas ac Arddangos y Ddinas: Mae’r orielau hyn yn is-lawr yr adeilad, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw. Mae’r orielau hyn yn olau iawn, ac mae ganddynt fynediad gwastad a llwybrau llydan.
(I-L) Lolfa Ddysgu: Yr is-lawr, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw. Gall lefel y golau cael ei newid yn yr ystafell hon.
(I-L) Toiled Hygyrch: Mae yna doiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod ar lefel yr is-lawr, gyda mynediad drwy lifft neu risiau â rheilen llaw.
Adnoddau ychwanegol:
Canllawiau Sain/Gweledol: Mae canllawiau llaw ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain a gyda disgrifiadau sain manwl.
Mae dyfeisiau llaw hefyd ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg a Tsieinëeg Mandarin. Mae croeso i gŵn tywys a chymorth ym mhob rhan o’r amgueddfa.
- Mae seddi ar gael ym mhob rhan o’r amgueddfa.
- Mae testun yr oriel ar gael mewn print mawr
- Dolen sain ar gael
- Prif arddangosfeydd yr oriel ar gael mewn Braille a Braille Cymraeg
- Chwyddwydrau ar gael
Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY):
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Dîm yr Amgueddfa, yr Adran Ddiwylliant a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, rydym bellach yn gallu cynnig yr adnoddau canlynol i deuluoedd ADY:
- Troli synhwyraidd i chi fenthyca cymhorthion synhwyraidd ohono yn ystod eich ymweliad. Siaradwch ag aelod o’r staff os hoffech ddefnyddio hwn.
- Map synhwyraidd i helpu i adnabod gwahanol amgylcheddau ledled yr amgueddfa.
- Stori weledol i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad.
Gallwch lawrlwytho copi yma:

