Croeso nôl

Croeso’n ôl! Rydyn ni wedi bod yn gweld eich eisiau!

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i wneud yr amgueddfa’n ddiogel i chi i gyd ddychwelyd.   Mae pethau bron yr un fath, ond rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau.  Cymerwch ennyd i ddarllen am y pethau rydyn ni’n eu gwneud ychydig yn wahanol, fel y gallwch gael ymweliad diogel a phleserus ag Amgueddfa Caerdydd.

Welcome Back, Museum of Cardiff

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod:

Ein hamgueddfa a sut y byddwn yn eich cadw’n ddiogel

  • Rydyn ni ar agor 10am-4pm o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn.
  • Bydd ein llawr gwaelod ar agor, gan gynnwys ein prif oriel.
  • Mae ein horiel islawr Lab y Ddinas a’r Coridor Teils yn parhau ar gau ar hyn o bryd, ond byddwn yn eu hagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
  • Gwisgwch orchudd wyneb.
  • Dilynwch ein system un ffordd a chadwch bellter cymdeithasol (2m).
  • Golchwch eich dwylo wrth ein gorsafoedd hylif diheintio dwylo.
  • Byddwn yn cyfyngu ar nifer y bobl yn ein horiel.
  • Byddwn yn rhoi pensil digidol i chi – defnyddiwch ef (nid eich bysedd!) wrth ddefnyddio ein sgriniau cyffwrdd a’n harddangosfeydd rhyngweithiol (Cofiwch ddychwelyd eich pensil digidol drwy ei roi yn y bin diogel ar ddiwedd eich ymweliad er mwyn i ni allu ei ddiheintio ar gyfer ymwelwyr yn y dyfodol).
  • Efallai y bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai digwyddiadau, bydd gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi ar ein tudalen digwyddiadau.
  • Byddwn yn glanhau’n amlach.
  • Rydyn ni wedi tynnu llawer o’r seddau yn yr oriel, ond os oes angen un arnoch, gofynnwch i aelod o’n tîm.
  • Defnyddiwch eich ffôn i lawrlwytho gwybodaeth am ein gwrthrychau pan welwch god QR, neu rhowch wybod i aelod o’r tîm os oes angen copi papur arnoch.

Cyfleusterau

  • Mae gennym doiled niwtral o ran y rhywiau ar agor ar y llawr gwaelod.
  • Mae ein toiled hygyrch ac ardal newid babanod hefyd ar gael.  Gofynnwch i aelod o staff am fynediad drwy’r lifft.
  • Nid yw ein loceri gadael bagiau ar gael.
  • Bydd ein siop ar gau am y tro.

Teuluoedd

  • Mae gennym barc bygi yn y dderbynfa.
  • Caniateir bwydo ar y fron ledled yr amgueddfa.
  • Mae gennym doiled niwtral o ran y rhywiau ar agor ar y llawr gwaelod.
  • Mae ein toiled hygyrch ac ardal newid babanod hefyd ar gael.  Gofynnwch i aelod o staff am fynediad drwy’r lifft.
  • Efallai y bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai digwyddiadau, bydd gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi ar ein tudalen digwyddiadau.
  • Nid oes gennym gaffi na lle i fwyta.  Fodd bynnag, rydyn ni yng nghanol y dref, yn agos at lawer o gaffis neu barciau i fwyta pecynnau cinio.
  • Bydd hylif diheintio dwylo yn cael ei roi ar lefel is/ ar uchder sy’n addas i blant.

Rydyn ni wedi ychwanegu gweithgareddau hwyliog ychwanegol i’n hymwelwyr ieuengaf a’r oedolion eu mwynhau:

  • Cofiwch gasglu eich llwybr Cymeriadau Caerdydd am ddim pan fyddwch yn cyrraedd
  • Mae gennym becynnau Dysgu fel Teulu Fy Amgueddfa i chi fynd â nhw adref neu gallwch eu lawrlwytho ar ein gwefan: FY AMGUEDDFA I
Fy Amgueddfa i
  • Gweithgareddau Dreigiau Drygionus (dan 5 oed)
  • Ditectifs Hanes (5+ oed)
  • Gweithgareddau Fy Amgueddfa (11+ oed)

Rydyn ni yma i helpu!

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes angen unrhyw help arnoch, rhowch wybod i aelod o’n tîm.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd