Helpwch ni i gael cipolwg ar fywyd yng Nghaerdydd yn ystod pandemig COVID-19 trwy gymryd rhan yn ein project ffotograffiaeth.
Rydym yn casglu lluniau i adlewyrchu sut mae bywydau pobl wedi newid yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.
Mae’n bwysig ein bod yn cadw cofnod o’r cyfnod hwn mewn hanes, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am y pandemig a’i effaith ar ein dinas a’i phobl.
Rydym yn chwilio am ddelweddau sy’n dangos sut mae eich bywyd yng Nghaerdydd wedi newid; eich arferion dyddiol newydd, heriau newydd, neu’r pethau bach rydych chi wedi dod i’w gwerthfawrogi.
Caiff detholiad o’r ffotograffau eu harddangos ar binfwrdd rhithwir ar y wefan hon. Byddwn hefyd yn dewis rhai i’w hychwanegu at gasgliad ein hamgueddfa.