Arddangosfa Lôn Atgofion Trelái
Arddangosfa Lôn Atgofion Trelái
Arddangosfa Lôn Atgofion Trelái
Starts :
Dechrau :
11 Gorffennaf 2026
Ends :
Gorffen :
31 Hydref 2026
Time:
Amser:
10:00 am-4:00 pm
Organiser:
Trefnydd:
Amgueddfa Caerdydd

Archwiliwch sut roedd plant Caerdydd yn chwarae rhwng y 1930au a’r 1950au.

Mae’r arddangosfa hon, sy’n cael ei harwain gan y gymuned, yn cynnwys:

  • Hanesion ar lafar yn cynnwys atgofion personol o blentyndod.
  • Ffotograffau, darluniau, a hen deganau.
  • Gêm fideo wedi’i chyd-gynllunio a grëwyd gan aelodau’r prosiect.

Dysgwch sut y gweithiodd tîm o bobl iau a hŷn o Gaerau a Threlái gyda’i gilydd i gasglu, dehongli a rhannu eu hanes chwarae lleol.

Mae’r arddangosfa hon yn brosiect cyd-gynhyrchu chwe mis o hyd rhwng:

  • Endeavourers – grŵp cymunedol dros 60 oed o Drelái.
  • Disgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
  • Ymchwilwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd.

Maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd, creu gyda’i gilydd, dysgu gyda’i gilydd, a chael llawer o hwyl gyda’i gilydd.

Yn cael ei arddangos yn ein horiel Arddangos y Ddinas rhwng 11 Gorffennaf a 31 Hydref 2026.
Mynediad am ddim.


EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Loading Map....

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Diddanu Caerdydd - 30/07/2024-27/08/2027 - 10:00 am-4:00 pm
Share this with others
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd