Sŵn Caerdydd: gweithgaredd ar-lein

Mae amgueddfeydd yn casglu eitemau rydym yn eu gweld ac yn darllen amdanynt, ond pa mor aml yr ydym yn eu clywed?

Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar rai o’r offerynnau cerdd a ddefnyddiwyd gan wahanol gymunedau yng Nghaerdydd. Drwy archwilio clipiau fideo a hanesion personol, byddwch yn darganfod pwysigrwydd cerddoriaeth i bobl a’u cymunedau a chael eich annog i feddwl am y seiniau a’r gerddoriaeth sy’n bwysig i chi.

Dechreuwch drwy lawrlwytho’r ddalen weithgaredd, yna archwilio arddangosfa ar-lain Sain Caerdydd i ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau. Pob hwyl dditectifs!

Os na allwch argraffu copi o’r daflen waith, dim problem! Ysgrifennwch eich atebion ar ddalen o bapur.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd