Croeso’n ôl! Rydyn ni wedi bod yn gweld eich eisiau!
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i wneud yr amgueddfa’n ddiogel i chi i gyd ddychwelyd. Mae pethau bron yr un fath, ond rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau. Cymerwch ennyd i ddarllen am y pethau rydyn ni’n eu gwneud ychydig yn wahanol, fel y gallwch gael ymweliad diogel a phleserus ag Amgueddfa Caerdydd.