Hiroko Sue yn dweud wrthym am y koto:
“Mae’r koto yn offeryn ag 13 llinyn, oedd yn dod yn wreiddiol o Tsieina cyn dod i Siapan yn y 7ed ganrif. Mae’n cael ei wneud allan o bren paulownia. Mewn rhai teuluoedd, mae bob cenhedlaeth yn chwarae. [Byddwch yn ei glywed mewn] seremoni de, bwyty Siapaneaidd, gwesty, digwyddiadau ac ati. [Mae’n] gerddoriaeth lys draddodiadol.”
Mae’n dweud wrthym pam ei fod yn bwysig iddi: “Oherwydd rwyf wedi bod yn chwarae am amser hir iawn, ac roedd y sŵn yn f’ymlacio. Roeddwn eisiau chwarae offeryn Siapaneaidd. Dechreuais ddysgu i chwarae’r piano pan roeddwn yn bump oed, ond pedair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl cael ysbrydoliaeth gan gerddor hŷn, dechreuais ar y koto. Mae koto wedi dod â llawer o ffrindiau a chyfleoedd i mi. Mae fy holl fywyd yn ymwneud â koto. Dyma’r dull i gyfathrebu â phobl yn rhwydd, hyd yn oed os yw’r iaith yn anodd, gallaf basio fy ysbryd ymlaen i bobl.”