Mae ymweliad ag Amgueddfa Caerdydd yn cynnig profiad dysgu manwl, grymusol a rhyngweithiol i ddysgwyr.
Rydym yn cynnig gweithdai hunan-arweiniad a gweithdai a hwylusir ar gyfer ysgolion a dysgwyr gydol oes. Gallwn deilwra’r rhain yn hawdd i’ch dysgu, prosiectau ac anghenion dysgu seiliedig ar gysyniadau cwricwlwm newydd.
Gallwn gynnig ein sesiynau trin gwrthrychau ‘Dwylo ar Hanes’ fel rhan o ymweliad â’r amgueddfa. Caiff y sesiynau rhyngweithiol, 15 munud o hyd eu hwyluso gan aelodau o dîm yr amgueddfa.