Straeon Pobl

Stori Ann

Cofia Ann Teear ei pharti Dydd VE yn Bangor Street, y Rhath:

“Dim ond chwech oeddwn i pan gafodd y llun ei dynnu. Fi sydd yn y tu blaen gyda’r band gwallt Alice… A dyna fy mam druan, prin y gallwch chi ei gweld hi yn y llun, ond hi drefnodd popeth.

“Ar draws y ffordd roedd cefn Firth’s Greengrocers ar Wellfield Road, nhw roddodd yr holl focsys oraensys i ni osod y bwyd ac i eistedd arnyn nhw; gallwch eu gweld nhw yn y llun.

Daethom ni â bwrdd y gegin a’r gramoffon. Dw i’n gallu cofio fy mam yn gwneud brechdanau o bannas stwnsh gyda rhinflas banana ac roedden nhw wir yn blasu fel bananas.”

Stori Ann, ffotograff: Parti Diwrnod VE ar Bangor Street.

Black and white photo. VE Day party on Bangor Street, Cardiff. People (mostly children) around a large makeshift table, with food and drink.

Stori Irene

Mae Irene Chedzoy yn cofio ei diwrnod fel Brenhines VJ yn chwe blwydd oed:

“Ar y 8fed o Fehefin 1946 fe gerddom ni ar hyd y teras, a finnau mewn ffrog hir binc,…

Gosododd y Cynghorwr Edmunds goron ar fy mhen, wedi’i gwneud o satin coch, a gwyn o’i hamgylch, a minnau’n meddwl ei bod hi’n brydferth, ac yna gosododd fodrwy aur ar fy mys, gyda llythrennau cyntaf fy enw, IC, mewn ysgrif arni a VJQ 1946 y tu mewn iddi,… Darllenodd y Cynghorydd Edmunds o sgrôl, a’m cyhoeddi i yn Frenhines VJ.

“Cynigiwyd i ni eistedd ar y wagon addurnedig, ac iddo gael ei dynnu ar hyd y teras, fel y digwyddodd hi, roedd rhai addurniadau wedi eu gosod yn sownd i’r wal, felly cerddais i hyd y teras i gyd, gyda fy moneddigesau preswyl.”

Two black and white photos.
Black and white photo of Irene Pandergast with

Stori Irene, ffotograff:

  • Tad Irene, Fredrick Chedzoy, mewn gwisg ffansi (sbectol a het) gyda’r cigydd lleol, Jack Smith.
  • Irene Pandergast gyda’r Cynghorydd Edmonds ar Ddiwrnod VJ.
  • Brenhines a morwynion dathliadau Diwrnod VJ Cathays Terrace.
  • Parti stryd Diwrnod VJ yn Cathays Terrace.

Stori Cynthia

Mae Cynthia Pulsford yn cofio dawnsio yn ystod blynyddoedd y rhyfel:

“Pan oedden ni yn Ysgol Fabanod Gladstone yn Cathays yng Nghaerdydd, dechreuodd ambell un o fy ffrindiau a fi fynd i ddosbarth dawnsio lleol. Dosbarth bach oedd e, yn cael ei gynnal mewn ystafell ganol tŷ yn Harriet Street, Cathays. Joy Davies oedd yn cynnal y gwersi.

“Mae gen i atgofion byw o gymryd rhan mewn cyngherddau yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Trefnodd Joy nosweithiau adloniant yn y Genhadaeth dros Forwyr yn Stryd Bute, Ysbyty’r Eglwys Newydd, Cartrefi Trelái yn ogystal â gwersylloedd milwyr yr UDA o amgylch Caerdydd.

Black and white photo. Children and adults pose for a group photo.

“Roedd ein gwisgoedd wedi eu gwneud o unrhyw beth oedd ar gael. Roedd gen i wisg wen wedi’i gwneud o sidan parasiwt. Deuai hwn o’r adeg y bu Joy yn gweithio mewn ffatri barasiwt uwchben siop yn Heol Eglwys Fair.”

Front cover of programme for VE Day celebrations. Main text reads. City of Cardiff, Cathays District Recreation Committee. V.E. Day Celebrations. Heath Park Saturday, June 9th.
Inside of VE Day Programme of Events.

Stori Cynthia, ffotograff:

  • Cynthia, yn gwisgo’r cilt yn y rhes flaen, Parc y Mynydd Bychan, 9 Mehefin 1945.
  •  Rhaglen, dathliadau Diwrnod VE, Parc y Mynydd Bychan, 9 Mehefin 1945.
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd