Starts :
Dechrau :
|
26 Ionawr 2019 |
Ends :
Gorffen :
|
26 Ionawr 2019 |
Time:
Amser:
|
10:30 am-3:30 pm |
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Diwrnod o anerchiadau ar etifeddiaeth a gwersi’r Rhyfel Byd Cyntaf i fenywod a dynion Caerdydd a De Cymru.
Bydd Dr Aled Eurig o Brifysgol Abertawe a James Phillips o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio’r digwyddiadau a effeithiodd yn syth wedi’r rhyfel ar Dde Cymru a’i effaith drwy gydol y 1920au.
Bydd yr Athro Lois Bibbings o Brifysgol Bryste yn dangos graddau ac amrywiaeth y gwrthwynebiad i ryfel a gyfrannodd at obeithion a disgwyliad o newid a democratiaeth.
Bydd Dr Michelle Deininger o Brifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar academyddion benywaidd Caerdydd yn y 1920au i ddangos sut y bu’n rhaid i gydweithwyr iau’r Athro Mackenzie, rhai a oedd heb gael y bleidlais o hyd, frwydro i gael cydnabyddiaeth a pharch.
Mynediad am ddim
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH