Help! Rydyn ni’n meddwl bod wy draig wedi’i gymysgu ag arteffactau yn stordy ein hamgueddfa, ac yn ystod tywydd poeth yr haf, mae wedi deor! Nawr mae gennym ddraig fach yn crwydro o gwmpas! Mae angen llygaid ifanc, craff i ddod o hyd iddi – allwch chi helpu? Os ydych chi’n barod i wneud, yna dewch i’n hamgueddfa rhwng 22 Hydref – 6 Tachwedd a gallwch ddarganfod mwy am ddreigiau a’u cysylltiadau hynafol â Chymru.
Gweithgaredd llawn hwyl AM DDIM i’r teulu cyfan, fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Ariannir yr Ŵyl gan Lywodraeth Cymru.