Heb Anghofio; Atgofion Caerdydd
Starts :
Dechrau :
|
05 Gorffennaf 2019 |
Ends :
Gorffen :
|
07 Gorffennaf 2019 |
Time:
Amser:
|
All Day |
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Mae’r project Heb Anghofio wedi bod yn casglu atgofion trigolion Caerdydd sy’n byw gyda demensia. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys ffilm ddogfen ac arddangosiad rhyngweithiol, er mwyn treiddio ymhellach i’r atgofion hyn. Bydd ffotograffau portread trawiadol o bob cyfranogwr i’w gweld, ynghyd ag amrywiaeth o brojectau crefft a ddyluniwyd gan y cyfranogwyr i adlewyrchu eu hatgofion o Gaerdydd, gan gynnwys wal glai terracotta.
Yn ystod yr arddangosfa, bydd y project Heb Anghofio yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth demensia, ynghyd â ‘gweithdai sut gallwch chi’ ar dechnegau fel Therapi Symbyliad Gwybyddol a Therapi Hel Atgofion sydd wedi cefnogi’r gwaith o gasglu’r atgofion hyn.
EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH
Loading Map....