|
Starts :
Dechrau :
|
24 Hydref 2026 |
|
Ends :
Gorffen :
|
01 Tachwedd 2026 |
|
Time:
Amser:
|
10:00 am-4:00 pm |
|
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Rydyn ni’n cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru 2026. Wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau addas i deuluoedd yn ystod hanner tymor mis Hydref (24 Hydref – 1 Tachwedd).
Hwyl! Thema’r ŵyl eleni yw mwynhau Calan Gaeaf mewn ffordd gynaliadwy.
Codwch lyfryn Calan Gaeaf a Hwyl am ddim, sy’n llawn posau a gweithgareddau i ddiddanu’r plant.
Beth sy’n digwydd yn Amgueddfa Caerdydd yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Ffilm i’r Teulu – Wall-E
Ymunwch â ni am ddangosiad o Wall-E i’r teulu cyfan. Animeiddiad o anturiaethau robot gan Disney/Pixar. Mae Wall-E yn ein dysgu ni am bwysigrwydd gofalu am ein planed er mwyn u ni allu cael dyfodol hapus ac iach.
Tystysgrif U | 98 munud
26 Hydref 2026
11am – 12:45pm
Mynediad am ddim
Does dim angen cadw lle
Crefftau Dydd Mercher
Creu addurniadau Calan Gaeaf.
28 Hydref 2026
11am – 3pm
Sesiwn Galw Heibio
Mynediad am ddim
Yn addas i bob oed
Gweithdy Zines Calan Gaeaf
Ymunwch â Flossy a Boo wrth i ni fwynhau creu zine.
Rhwygwch, torrwch a glynwch eich ffordd i greu zines newydd sbon o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
29 Hydref 2026
11am tan 12:30pm
1pm i 3pm
Sesiwn Galw Heibio
Yn addas i bob oed
Mynediad am ddim
Deunyddiau wedi’u cynnwys
Grantiau gan Lywodraeth Cymru trwy’r Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ymhob
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

