Glitter Cymru: Arddangosfa Perthyn
Glitter Cymru: Arddangosfa Perthyn
Glitter Cymru: Arddangosfa Perthyn
Starts :
Dechrau :
24 Mai 2025
Ends :
Gorffen :
30 Mehefin 2025
Time:
Amser:
10:00 am-4:00 pm
Organiser:
Trefnydd:
Amgueddfa Caerdydd

Mae Glitter Cymru yn grŵp cymdeithasol sy’n cwrdd yng Nghaerdydd ar gyfer y mwyafrif byd-eang LHDTC+, ac fe’i sefydlwyd mewn ymateb i’r diffyg cynrychiolaeth a chynhwysiant y mae llawer o bobl cwiar o liw yn ei brofi o fewn y gymuned LHDTC+ a’r gymdeithas ehangach.

Mae’r grŵp yn cynnig lle diogel, croesawgar i’r gymuned Mwyafrif Byd-eang – gan groesawu ffoaduriaid, ceiswyr lloches, myfyrwyr rhyngwladol, a thrigolion Cymru i gysylltu, adeiladu cymuned, a dathlu eu hunaniaethau.

Mae’r arddangosfa hon yn eich gwahodd i ddarganfod pwy yw Glitter Cymru, ac i archwilio’r gwaith pwerus maen nhw’n ei wneud yng Nghaerdydd a thu hwnt. Trwy adrodd straeon a ffotograffiaeth, mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at eu cerrig milltir allweddol, yn dathlu amrywiaeth eu haelodau, ac yn arddangos effaith mannau cymunedol cynhwysol.


EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Loading Map....

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Diddanu Caerdydd - 30/07/2024-31/08/2025 - 10:00 am-4:00 pm
Share this with others
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd