Rydym yn barod i groesawu ein Dreigiau Drygionus yn ôl! Digwyddiad misol yma yn Amgueddfa Caerdydd ar gyfer babanod, plant bach a’u hoedolion.
Diwrnod cyfan o hwyl, gyda chwarae meddal a chwarae anniben, yn ogystal â’n sesiynau Rhigwm a Stori poblogaidd!
Galwch heibio rhwng 10am a 3pm.
Amser Odli ac Amser Stori rhwng 11am a 1 pm.

