Diddanu Caerdydd
Diddanu Caerdydd
Diddanu Caerdydd
Starts :
Dechrau :
30 Gorffennaf 2024
Ends :
Gorffen :
31 Rhagfyr 2024
Time:
Amser:
10:00 am-4:00 pm
Organiser:
Trefnydd:
Amgueddfa Caerdydd

Mae Caerdydd wedi cael ei hadnabod ers amser maith fel lle gwych ar gyfer adloniant, gyda theatrau o’r radd flaenaf, lleoliadau chwaraeon a sîn gerdd fywiog. Mae’r arddangosfa hon yn eich gwahodd i gamu’n ôl mewn amser a dathlu hamdden yng Nghaerdydd o oes Fictoria hyd heddiw.

Mae’n dod â gwrthrychau a straeon ynghyd o gasgliad yr amgueddfa, gan gynnwys model 4 troedfedd newydd o’r taflwr gwaywffon enfawr a safai ar ben siop Howell’s pan gynhaliodd Caerdydd Gemau’r Ymerodraeth a’r Gymanwlad ym 1958.

Mae’r arddangosfa’n tynnu sylw at rai o dafarndai a lleoliadau Caerdydd, gan gynnwys lamp a arferai hongian uwchben mynedfa’r Kings Cross, tafarn yng nghanol y ddinas a fu’n denu’r gymuned LHDTC+ o 1970 tan iddi gau yn 2010.

Hefyd yn cael eu harddangos mae poster a gwaith celf gwreiddiol o’r sioe deledu glasurol i blant, SuperTed, sy’n sicr o hel atgofion i lawer o ymwelwyr. Roedd y sioe a oedd yn cynnwys yr archarwr arth eiconig yn boblogaidd yn yr 1980au ac fe’i crëwyd gan dîm animeiddio yng Nghaerdydd.

Mae eitemau eraill yn yr arddangosfa yn cynnwys y llythrennau gwreiddiol o Sinema’r Globe ar Heol Albany, y Rhath, a mwy o gof-bethau o Gemau 1958.

Share this:
Rhannwch:

EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Loading Map....

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Diddanu Caerdydd - 30/07/2024-31/12/2024 - 10:00 am-4:00 pm
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd