Caerdydd: Canol y Ddinas a’r Tu Hwnt
Caerdydd: Canol y Ddinas a’r Tu Hwnt
Caerdydd: Canol y Ddinas a’r Tu Hwnt
Starts :
Dechrau :
05 Ebrill 2023
Ends :
Gorffen :
16 Ebrill 2023
Time:
Amser:
10:00 am-4:00 pm
Organiser:
Trefnydd:
Amgueddfa Caerdydd

Arddangosfa gelf elusennol er budd y Groes Goch Brydeinig: Mae ‘Caerdydd: Canol y Ddinas a’r Tu Hwnt’ yn cynnwys 40 paentiad gan L.J. Davies, ac mae gan ‘Living Nature’ 10 paentiad gan Jennifer Humphries.

Mae dau artist lleol ac aelodau o Gymdeithas Gelf De Cymru yn gwerthu eu paentiadau er mwyn codi arian ar gyfer y Groes Goch Brydeinig. Mae L.J. Davies wedi bod yn paentio yng Nghaerdydd ers 1998, ac yn defnyddio ei harddull unlliw nodedig i ddal delweddau o adeiladau a cherfluniau nodedig y ddinas. Ceir catalog A5 sy’n cyd-fynd â’r deugain paentiad sy’n crynhoi’r cefndir diwylliannol i bob golygfa. Mae Jennifer Humphries yn arddangos detholiad o 10 paentiad lliw o flodau ac anifeiliaid.

Cynhelir yr arddangosfa yn Amgueddfa Caerdydd o ddydd Mercher 5 tan ddydd Sul 16 Ebrill (gan gynnwys y diwrnod hwnnw) rhwng 10.00 a 16.00 bob dydd.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Mynediad am ddim.

Share this:
Rhannwch:

EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Loading Map....

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Diddanu Caerdydd - 30/07/2024-31/08/2025 - 10:00 am-4:00 pm
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd