Starts :
Dechrau :
|
05 Mai 2023 |
Ends :
Gorffen :
|
26 Gorffennaf 2023 |
Time:
Amser:
|
10:00 am-4:00 pm |
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Mae’r arddangosfa hon yn dod â dau brosiect ynghyd a gynhaliwyd yn ystod cyfnodau clo Covid 19 yn 2020. Mae CaerDyddiadur yn sôn am brofiadau plant Caerdydd yn ystod y cyfnodau clo, drwy gyfrwng fideos, delweddau, a dyddiaduron.
Hefyd yn cael eu harddangos yn CaerDyddiadur, mae ffotograffau a gasglwyd gan bobl Caerdydd yn ystod y cyfnodau clo. Mae’r rhain yn dangos sut yr effeithiwyd ar fywyd arferol y ddinas pan fu’n rhaid i ddinasyddion aros gartref a sut daeth cymunedau at ei gilydd i’w cefnogi ei gilydd a dangos eu gwerthfawrogiad o weithwyr allweddol yn ystod y cyfnod hwn.
Anogir ymwelwyr â’r arddangosfa i adfyfyrio ar eu profiadau eu hunain yn ystod y cyfnodau clo a phandemig Covid-19 ac ychwanegu eu hatgofion at fwrdd atgofion yr arddangosfa. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cofnodi a’u cadw fel rhan o gasgliad yr amgueddfa.
Mynediad: am ddim.
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH