Antur Amgueddfa’r Twitchers
Antur Amgueddfa’r Twitchers
Antur Amgueddfa’r Twitchers
Starts :
Dechrau :
12 Chwefror 2024
Ends :
Gorffen :
18 Chwefror 2024
Time:
Amser:
10:00 am-4:00 pm
Organiser:
Trefnydd:
Amgueddfa Caerdydd

Ymunwch â’r ditectifs gwylio adar, y Twitchers, i archwilio’r adar prydferth a’r anifeiliaid rhyfeddol sydd yn Amgueddfa Caerdydd yng ngwyliau hanner tymor fis Chwefror. Mae Antur Amgueddfa’r Twitchers gan Kids in Museums a Walker Books yn dathlu cyhoeddi Feather, sef y pedwerydd llyfr yng nghyfres The Twitchers gan yr awdur hynod boblogaidd M. G. Leonard. Dewch o hyd i’r adar a gwnewch eich addewid eich hun i ddiogelu bywyd gwyllt. Cwblhewch y daflen weithgareddau i dderbyn eich sticer Twitchers!

Gwnewch lun o’ch aderyn neu anifail partner eich hun a rhannwch eich llun ar Twitter/X neu Instagram gyda’r hashnod #TwitchersMuseumAdventure a’r tag @kidsinmuseums i gael cyfle i ennill un o bum bwndel. Gallwch weld rhagor ar wefan Kids in Museums: https://bit.ly/TwitchersMuseumAdventure

Share this:
Rhannwch:

EVENT LOCATION
LLEOLIAD Y DIGWYDDIAD
Amgueddfa Caerdydd
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Loading Map....

NEXT EVENT
DIGWYDDIAD NESAF
Arddangosfa Parc Trelái - 25/05/2024-31/08/2024 - 10:00 am-4:00 pm
Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd