Veronica Smith yn cofio sut daeth ei mam-gu a’i thad-cu o’r Eidal drosodd i Gaerdydd:
“Daeth fy nhad-cu a fy mam-gu drosodd gyda theuluoedd eraill o’r Eidal, fe wnaethon nhw gerdded yr Alpau. Roedd fy nheulu i gyd yn gerddorol, roedd fy nhad-cu yn chwarae’r acordion, roedd fy mam-gu yn chwarae’r tambwrîn. Roedden nhw’n chwarae cerddoriaeth swynol ac roedd pobl yn rhoi arian iddyn nhw a wnaeth eu helpu i symud i Loegr. Fe gyrhaeddon nhw Loegr ac roedd y rhan fwyaf o’r bobl Eidalaidd yn setlo yn Adamsdown gan ei fod yn agos i’r orsaf ac fe wnaethon nhw agor siop.
Roedd gan fy modryb siop yn James Street. Roedd ganddi hufen iâ a sigaréts a gwnaeth fy nhad, Giuseppe Corsi, neu Joe, ei helpu ac yna fe wnaethon nhw agor siopau yn Heol y Plwca, Heol y Gadeirlan a Heol y Bont-faen. Roedden nhw arfer gwneud yr hufen iâ, ei gymysgu eu hunain, hufen iâ hyfryd, roedden nhw arfer rhoi Ideal Milk ynddo ac wyau. Roedd fy nhad yn gwneud yr holl hufen iâ i’r ysbytai – roedd yn dda ar gyfer y pwysau gwaed.”