Rhoddion mewn ewyllysion

Cardiff Story Museum

Rydym yn dibynnu ar grantiau a rhoddion i’n helpu i ddarparu ein rhaglen addysg ac allgymorth arobryn ac i ofalu am ein casgliadau o arteffactau, ffotograffau a recordiadau sy’n dod â hanes Caerdydd yn fyw.

Drwy ein cofio yn eich ewyllys, byddwch yn sicrhau ein dyfodol ac yn ein helpu i barhau i adrodd hanes Caerdydd a’r rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.

Pam gadael rhodd i ni?
Mae rhoddion a chyfraniadau o unrhyw faint yn hanfodol er mwyn ein helpu i: ysbrydoli cenedlaethau Caerdydd y dyfodol i ddeall mwy am eu dinas; edrych ar ôl ein casgliad a’i ehangu i ddweud rhagor am orffennol a phresennol Caerdydd; parhau â’n rhaglen allgymorth arobryn, gan weithio gyda rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd.

Sut i adael rhodd i ni
Os hoffech adael rhodd i’r Amgueddfa yn eich ewyllys, bydd angen i chi gynnwys ein henw, cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig.  Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei hysgriffennu o fewn eich Ewyllys:
Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd
Amgueddfa Stori Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd.  CF10 1BH
Rhif elusen gofrestredig 1135241

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd