Pam gadael rhodd i ni?
Mae rhoddion a chyfraniadau o unrhyw faint yn hanfodol er mwyn ein helpu i: ysbrydoli cenedlaethau Caerdydd y dyfodol i ddeall mwy am eu dinas; edrych ar ôl ein casgliad a’i ehangu i ddweud rhagor am orffennol a phresennol Caerdydd; parhau â’n rhaglen allgymorth arobryn, gan weithio gyda rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd.
Sut i adael rhodd i ni
Os hoffech adael rhodd i’r Amgueddfa yn eich ewyllys, bydd angen i chi gynnwys ein henw, cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig. Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei hysgriffennu o fewn eich Ewyllys:
Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd
Amgueddfa Stori Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd. CF10 1BH
Rhif elusen gofrestredig 1135241