Padell ddur

PADELL DDUR

Ellie Lake yn dweud wrthym am Wahda a’r padelli dur:

“Mae Wahda wedi bod yn chwarae padelli dur yng Nghaerdydd ers 1991. Graddiodd o Goleg Merton yn St Lucia, ac mae wedi pasio ymlaen ei gariad at gerddoriaeth padelli dur i genedlaethau newydd, gan gynnwys ei blant. Fe yw trefnydd y padelli dur ar gyfer yr Eisteddfod a’r carnifal MAS, a chyfarwyddwr padelli dur SWICA. Mae’n arwain gweithdai padelli dur yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gynradd Parc y Rhath.”

Steel Drums

Dywed Wahda wrthym am chwarae’r padelli dur:

“Cefais fy ngeni yn St Lucia yn India’r Gorllewin. Pan oeddwn yn ifanc dechreuais ymddiddori mewn chwarae padelli dur. Roeddwn i’n arfer rhedeg i ffwrdd o gartref i ymarfer, disgynnais mewn cariad â’u sain! Roedd gennyf ffrindiau yma ac roedd fy mrawd yn byw yn Llundain, felly deuthum i Brydain am ychydig. Un dydd Sadwrn deuthum i Gaerdydd ar ymweliad. Disgynnais mewn cariad â Chaerdydd a’r dydd Sadwrn canlynol roeddwn yn byw yng Nghaerdydd!

Cefais swydd yn ysgol Fitzalan, yn dysgu padelli a drymiau dur. Erbyn hyn rwy’n symud o gwmpas yr ysgolion ac yn dysgu dros 200 o blant yr wythnos. Mae pobl yn dweud mai fi ddaeth â’r padelli dur i Gymru. Ond roedd Caribïaid yma cyn i mi chwarae, ond ymysg ei gilydd yn unig. Roeddwn eisiau cyflwyno’r peth i ysgolion, ac i blant. Roedd fy nisgyblion yn dod o bob cefndir, Somali, Indiaid, Caribïaid, Cymry, pawb. Rydym wedi ennill mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a’r Urdd!”

Wahda yn chwarae’r padell ddur.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd