Dywed Wahda wrthym am chwarae’r padelli dur:
“Cefais fy ngeni yn St Lucia yn India’r Gorllewin. Pan oeddwn yn ifanc dechreuais ymddiddori mewn chwarae padelli dur. Roeddwn i’n arfer rhedeg i ffwrdd o gartref i ymarfer, disgynnais mewn cariad â’u sain! Roedd gennyf ffrindiau yma ac roedd fy mrawd yn byw yn Llundain, felly deuthum i Brydain am ychydig. Un dydd Sadwrn deuthum i Gaerdydd ar ymweliad. Disgynnais mewn cariad â Chaerdydd a’r dydd Sadwrn canlynol roeddwn yn byw yng Nghaerdydd!
Cefais swydd yn ysgol Fitzalan, yn dysgu padelli a drymiau dur. Erbyn hyn rwy’n symud o gwmpas yr ysgolion ac yn dysgu dros 200 o blant yr wythnos. Mae pobl yn dweud mai fi ddaeth â’r padelli dur i Gymru. Ond roedd Caribïaid yma cyn i mi chwarae, ond ymysg ei gilydd yn unig. Roeddwn eisiau cyflwyno’r peth i ysgolion, ac i blant. Roedd fy nisgyblion yn dod o bob cefndir, Somali, Indiaid, Caribïaid, Cymry, pawb. Rydym wedi ennill mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a’r Urdd!”