Ar 8 Mai 1945 ymgasglodd tyrfa y tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer y cyhoeddiad o Lundain – roedd yr Almaen wedi ildio, datganwyd Buddugoliaeth yn Ewrop (Diwrnod VE).
Cyhoeddwyd dau ddiwrnod o wyliau i ddathlu. Paentiwyd llochesi cyrch awyr yn goch, gwyn a glas a gosodwyd baneri bychain i hedfan. Cynhaliwyd partïon stryd a chafodd coelcerthi eu cynnau. Cyfunwyd cwponau dogni i greu partïon da, a phan oedd y plant wedi mynd i’r gwely gwthiai’r oedolion radiogramau i’r stryd a dawnsio. Cynhaliwyd gwasanaethau crefyddol ledled Caerdydd.
Datganwyd buddugoliaeth yn erbyn Siapan (Diwrnod VJ) ar 15 Awst 1945, a dyna fu diwedd go iawn yr Ail Ryfel Byd, a chafwyd rhagor o ddathliadau gan gynnwys dawns wedi ei goleuo gan oleuadau cerbydau o flaen Neuadd y Ddinas. Dathlodd Americanwyr yn Heol Eglwys Fair a seiniodd y seirenau cyrch awyr am y tro olaf.
Byddai bywyd yn newid eto wrth i faciwîs, milwyr, gweithwyr rhyfel a charcharorion-rhyfel ddechrau dod adref. Roedd hefyd yn amser i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel. Parhaodd dogni dillad a bwyd wrth i’r genedl ddechrau ailadeiladu.