Mae Marilyn O’Donovan yn dweud wrthym am yr acordion:
“Cafodd fy nhad, Kenneth Parker, ei eni ym 1920 ym Mhorth, Cwm Rhondda. …Erbyn iddo droi’n 19 oed, roedd wedi bod yn gweithio yn y pwll ers 5 mlynedd gan roi ei holl gyflog, ar wahân i un swllt yr wythnos, i gynnal y teulu, ond roedd wedi llwyddo i gynilo digon erbyn mis Ebrill 1939 i osod blaendal gwerth £1. 3s. 0d. ar y piano-acordion roedd e wedi’i weld yn ffenestr The Empire Music Stores ym Mhorth. Cost yr acordion oedd £22. 1s. 6d. ac roedd rhaid iddo dalu amdano mewn rhandaliadau o £1. 3s. 3d. y mis.
Dechreuodd ddysgu ei hun sut i’w chwarae, ond penderfynodd fod angen gwersi arno gan chwaraewr proffesiynol felly, bob wythnos ar ôl gweithio diwrnod llawn yn y pwll, byddai’n cael bath, newid ei ddillad, gosod ei acordion ar ei feic a beicio’r 15 milltir i Gaerdydd i gael gwersi gyda Miss Hilda Banwell yn Romilly Crescent. Ar ôl cael ei wers, byddai wedyn yn beicio’n ôl lan i Gwm Rhondda, cael noson o gwsg a chodi’n gynnar i weithio diwrnod arall i lawr y pwll. Aeth Hilda Banwell ymlaen i fod yn adnabyddus iawn am ei Merry Makers Accordion Band a oedd yn difyrru aelodau’r lluoedd arfog a gweithwyr arfau rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.”