Meddwl am gyfrannu eitemau i’r casgliad? Darllenwch y canlynol am gyngor ar yr hyn i’w wneud.
Beth rydym yn ei gasglu?
Rydym yn casglu deunyddiau sydd â chyswllt cryf â hanes Caerdydd ac yn ddelfrydol eitemau y mae straeon ac atgofion personol wedi cysylltu â nhw.
Gwybodaeth i’w rhoi i Amgueddfa Stori Caerdydd
Pan gysylltwch â ni byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi’r canlynol:
- Gwybodaeth gefndir – Crynodeb byr gan gynnwys unrhyw straeon personol a sut mae’r eitem yn berthnasol i hanes Caerdydd.
- Sut rydych wedi cael gafael ar yr eitem
- Dyddiadau sy’n gysylltiedig â’r eitem
- Ffotograff o’r eitem
- Dywedwch wrthym a oes gennych unrhyw ffotograffau o’r gwrthrych yn cael ei ddefnyddio
- Cyflwr yr eitem
Rhesymau pan na allem o bosibl dderbyn eich cyfraniad
Er ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniadau’n fawr, nid yw bob amser yn bosibl i ni dderbyn popeth a gynigir. Mae rhesymau dros pam na allem o bosibl dderbyn eitem yn cynnwys:
- Mae eisoes gennym eitem debyg yn y casgliad
- Nid oes digon o le gennym i’w storio
- Mae’r eitem yn fwy addas i sefydliad treftadaeth arall
- Mae’r eitem mewn cyflwr gwael a byddai’n anodd ei chadw
- Nid oes llawer o wybodaeth gysylltiedig neu nid oes cysylltiad â hanes Caerdydd
- Nid yw’n cyd-fynd â’n polisi casgliadau
Os nad ydych yn derbyn eich eitem ar gyfer y casgliad craidd efallai y byddwn yn gofyn a allwn ni ddefnyddio eich eitem yn ein casgliad trin i gynorthwyo gyda’n gwaith dysgu ac allgymorth.
Mae pob eitem yn cael ei hystyried yn ofalus gan y staff curadurol mewn perthynas â’n polisi casgliadau a’n casgliadau presennol.
Nodwch:
Ni allwn roi prisiadau
Nid ydym fel arfer yn derbyn eitemau i’w benthyg am gyfnod hir
Ni allwn dderbyn eitemau peryglus oni bai bod rhesymau cymhellol dros wneud felly. Mae eitemau peryglus yn cynnwys drylliau, eitemau sy’n cynnwys asbestos, ffrwydron, deunyddiau fflamadwy, gwenwynllyd sydd o bosibl yn garsinogenig neu ymbelydrol.
Sut mae cysylltu â ni
E-bost: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk gyda ‘chyfrannu eitem’ yn llinell pwnc yr e-bost
Drwy’r post: RHADBOST RSGA-BYBX-AJYE, Stori Caerdydd, Hen Lyfrgell, Heol Y Drindod, Caerdydd, CF10 1BH
Peidiwch ag anfon yr eitem atom ni, gan nad fydd modd i ni ei dychwelyd.
Beth nesaf?
Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi a gallem ofyn am fwy o wybodaeth o bosibl.
Unwaith y deuir i benderfyniad byddwn yn cysylltu â chi i naill dderbyn neu wrthod eich cynnig. Nodwch fod gennym lawer o wrthrychau i’w prosesu ar hyn o bryd sy’n cymryd yn hirach nag yr hoffem ni.
Os yw eich cyfraniad yn addas i’n casgliad byddwn yn trefnu cwrdd â chi i gasglu’r gwrthrych a byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen trosglwyddo teitl, sy’n trosglwyddo’n gyfreithiol y gwrthrych i ni i ofalu amdano.
Cyfrannu straeon personol
Oes gennych Stori Caerdydd i’w hadrodd? Os felly, hoffem glywed gennych.
E-bost: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk gyda ‘chyfrannu stori’ yn llinell pwnc yr e-bost
Drwy’r post: RHADBOST RSGA-BYBX-AJYE, Stori Caerdydd, Hen Lyfrgell, Heol Y Drindod, Caerdydd, CF10 1BH