|
Starts :
Dechrau :
|
18 Mawrth 2026 |
|
Ends :
Gorffen :
|
27 Mehefin 2026 |
|
Time:
Amser:
|
10:00 am-4:00 pm |
|
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes y Sîciaid yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gymuned Caerdydd. O ddyfodiaid cynnar i dwf bywyd teuluol, diwylliant, cerddoriaeth a ffydd, mae’n tynnu sylw at sut mae Sîciaid wedi cyfrannu at fywyd cymdeithasol a diwylliannol y ddinas.
Gan ddefnyddio ffotograffau, erthyglau o bapurau newydd, ffilmiau teledu archif, offerynnau cerdd, a straeon personol, mae’r arddangosfa hon yn dod ynghyd i adrodd stori am fudo, perthyn, a chymuned.
Mae hwn yn hanes byw. Os oes gennych straeon, ffotograffau, recordiadau, neu atgofion i’w rhannu, rydym yn eich gwahodd yn gynnes – yn enwedig henuriad ac aelodau o’r gymuned – i gyfrannu a helpu’r arddangosfa hon i dyfu.
Cysylltwch â sikhsinwales@gmail.com
Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 10am – 4pm
Dydd Sul: Ar gau
Mynediad am ddim
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

