Bloomberg Connects

Canllaw am ddim i Amgueddfa Caerdydd ar gael ar Bloomberg Connects.

Archwiliwch Amgueddfa Caerdydd gyda’n canllaw digidol ar Bloomberg Connects, yr ap celfyddydau a diwylliant am ddim. Mae’r canllaw hwn sy’n hawdd ei ddefnyddio yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. Archwiliwch yr orielau gyda mapiau rhyngweithiol a thaith dywys neu darganfyddwch be sy’ mlaen – gan gynnwys yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau diweddaraf.

Mae’r canllaw ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a dros 50 o ieithoedd eraill. Dewiswch eich iaith wrth agor yr ap. Mae teithiau hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Three screenshots of the Museum of Cardiff guide on Bloomberg Connects, with a photo of the lion and seal animal wall in the centre, a page about the exhibition Entertaining Cardiff on the right and a list of images and titles on the left.

Gallwch hefyd gael mynediad i ganllaw Amgueddfa Caerdydd ar unwaith o’ch porwr – nid oes angen lawrlwytho ap.

Yn ogystal ag Amgueddfa Caerdydd, mae Bloomberg Connects yn gadael i chi archwilio cannoedd o amgueddfeydd, orielau, parciau cerfluniau, gerddi a mannau diwylliannol ledled y byd, trwy lawrlwytho un waith am ddim o’r App Store neu Google Play.

Darganfyddwch fwy am Bloomberg Connects ar eu gwefan.

Yn ôl
i’r brig

© Stori Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd