Starts :
Dechrau :
|
03 Awst 2024 |
Ends :
Gorffen :
|
26 Awst 2024 |
Time:
Amser:
|
10:00 am-4:00 pm |
Organiser:
Trefnydd:
|
Amgueddfa Caerdydd |
Ymunwch â ni ym mis Awst am lwybr amgueddfa arbennig o wych, yn rhan o Antur Amgueddfa Grimwood gyda Kids in Museums a Llyfrau i Blant Simon & Schuster. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau’r llyfr diweddaraf yng nghyfres Grimwood: Party Animals, a ysgrifennwyd a darluniwyd gan Nadia Shireen. Chwiliwch am gymaint o anifeiliaid ag y gallwch, cwblhau posau ac adeiladu nyth aderyn hurt o wrthrychau a welwch yn yr amgueddfa! Cwblhewch y llwybr i gael sticer Grimwood am ddim. Mae cystadleuaeth i gymryd rhan ynddi hefyd!
Grimwood: Party Animals
Mae brawd a chwaer llwynogod bach, Ted a Nancy yn dianc o fywyd trefol ac yn cael eu hunain yn Grimwood, y goedwig lle gall unrhyw beth ddigwydd. Ynghyd â’u ffrindiau newydd, Willow y Gwningen, Sharon y Frân, Titus y Hydd, a llawer iawn o wiwerod, maen nhw’n wynebu’r heriau anoddaf, yn cychwyn ar anturiaethau gwallgof, yn dysgu’r gwersi bywyd mwyaf ac yn cael y mwyaf o hwyl y gall dau lwynog bach ei gael.
Y pedwerydd teitl yn y gyfres boblogaidd Grimwood sy’n hynod o ddigrif, mae Grimwood: Party Animals allan nawr! A all y gang helpu hoff breswylydd Grimwood, Sharon y Frân, i gael ei hud yn ôl?
The Old Library, The Hayes
Cardiff
CF10 1BH