Mae Mr Mills yn cofio chwarae esgyrn cerddorol:
“Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Treganna ei bomio’n eitha’ trwm, yn enwedig Blackstone Street. Pan oedden ni’n blant, byddent yn torri’r llechi a fomiwyd i siâp esgyrn cerddorol ac roedd pawb yn arfer chwarae ac arbrofi gyda nhw. Roedden ni i gyd yn gwybod am esgyrn cerddorol. Dw i ddim yn gallu cofio sut roedden ni’n gwybod amdanynt, ond roedden ni rhywsut. Mi wnes i ddangos i fy mam…sut i chwarae esgyrn cerddorol gyda’r llechi. Cymerodd fy mam ati’n reddfol. Aeth i brynu rhai go iawn o siop. Roedd hi’n arfer eu chwarae yn ei thafarn leol, y Greyhound ar Wellington Street. Yn y dyddiau hynny, roedd y dafarn bob amser yn ganolbwynt unrhyw weithgarwch. Roedd fy mam yn chwarae sgitls ac roedd hi’n rhan o dîm sgitls menywod. Byddai i’n chwarae ei hesgyrn cerddorol ar ôl gêm; yn aml byddai rhywun yn ymuno â hi a chanu; efallai byddai rhywun yn dechrau chwarae’r llwyau hefyd.”